18 Gorffennaf 2023
Annwyl Gyfaill,
Ymgynghoriad: Cymru Wrth-hiliol
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn cynnal ymchwiliad sy'n edrych ar y modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu a’i gyflwyno. Nod y Cynllun yw adeiladu Cymru wrth-hiliol, gan fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig. Mewn cyfarfod bord gron a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2023, tynnodd randdeiliaid sylw at faterion yn ymwneud â gweithredu a chyflawni’r cynllun yn gyffredinol, a mynegi pryderon yn y meysydd polisi a ganlyn:
Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i archwilio’r materion hyn ymhellach drwy gynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd y modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu a’i gyflawni.
Gwahoddiad i gyfrannu i’r ymchwiliad
Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei drafodaethau ar yr ymchwiliad. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, byddai’n ddefnyddiol cael eich sylwadau yn ymateb i’r cylch gorchwyl isod:
O ystyried pwysigrwydd croestoriadedd, bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried sut y cafodd hunaniaethau croestoriadol pobl eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu'r Cynllun.
Os hoffech chi gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch sylwadau at: SeneddCydraddoldeb@Senedd.Cymru
Dylai ymatebion gyrraedd erbyn 6 Hydref 2023.
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.
Polisi Dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Rydym yn disgwyl i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Fel rheol byddwn yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb yn eich rôl broffesiynol, bydd y fersiwn o’ch ymateb a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd/rôl os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1SN
E-bost:
SeneddCydraddoldeb@Senedd.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565
Yn gywir,
Jenny Rathbone AS
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.